Lime logo    

PROSIECTAU NEWYDD: Logo Llywodraethu Da, Brand Big Screen Cinema, Adroddiad Blynyddol Llamau, Llyfryn Corfforaethol ESIS

 



Inch Blue Haf/Gwanwyn 2008

Unwaith eto rydym wedi llwyddo i datblygu delwedd hir sefydledig Inch Blue. Gyda elfennau newydd trawiadol wedi eu ychwanedu i'r cynllun a'r cyflwyniad o eitemau gwych newydd gan y cleient, mae'r catalogau yma'n gwella bob tro. muy



Corfforaethol ond cyfeillgar
Roedd ESIS (Y Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion) eisiau cyflwyno proffesionyldeb, gonestrwydd a cywirdeb trwy eu llyfryn corfforaethol – heb ymddangos yn sych a ddihiwmor. muy

Gorymdaith y ceirw
Creuon ni banneri mawr i hyrwyddo Gorymdaith Ceirw y Nadolig sy nawr yn digwyddiad mawr yn calendr Y Bontfaen. Rhaid bod rhywun wedi cymryd diddordeb mawr yn y baneri am fod un ohonynt wedi cael ei dwyn!

 

Logo newydd Da i NLIAH
Buom ni'n llwyddiannus mewn cais i ddylunio logo i NLIAH. Roedd angen brand newydd i'r corff Llywodraethu Da yn Iechyd, sy'n rhan o NLIAH. Mae'r corff yn hybu llywodraethu da o fewn y GIG yng Nghymru.

angen: dwylo diogel
Ers dechrau Mis Mawrth mae Cheeky Monkey Creative wedi cael tîm yn cystadlu yng nghynghrair pêl-droed 5-bob-ochr Canolfan Pêl-droed Gôl. Mae wedi bod yn gwaith caled yn ein tymor cyntaf ond rydym wedi cael peth llwyddiant. Mae gennym un buddugoliaeth, un gêm gyfartal a nifer o gemau clos.

Beth sydd angen mwy na dim yw gôl-geidwad da. Felly, os ydych yn ffansio gêm rheolaidd pob noswaith Iau, a mae gennych y sgiliau perthnasol yna rhowch alwad.


rhedeg drow JAM
Mis Hydref diwethaf cymerodd Bleddyn rhan yn Hanner Mrathon Caerdydd i helpu codi arian dros elusen ’Jamie Adamson Memorial Fund’ (JAM Fund). Mae nawr wrthi yn ymarfer ar gyfer y blwydyn yma. Os hoffech noddi Bleddyn dros ei ymdrechion, cysylltwch â ni gyda addawiad. Am rhagor o wybodaeth ynglyn â gwaith yr elusen ewch i www.jamfund.co.uk

 

 

Y sgrin fawr
Enillon cais i frandio 'Big Screen Cinema' Y Bontfaen. Mae'r sinema yn dangos ffilmiau pob mis ac roedd angen stondinau baner i hyrwyddo pob digwyddiad. Creuwyd brand cryf a banneri atyniadol a thrawiadol.
cliciwch yma i weld y gwaith

 
Uned 14 Royal Stuart Workshops Adelaide Place Bae Caerdydd CF10 5 BR | 029 2049 1000 | design@cheekymonkeycreative.co.uk